Fe fydd Gweinidog Tramor Prydain, Boris Johnson yn dechrau trafod Syria â rhai o arweinwyr y Gorllewin ar ôl i drafodaethau rhwng yr Unol Daleithiau a Rwsia fethu.

Bwriad Johnson yw ymchwilio i’r “holl opsiynau” er mwyn dod â’r anghydfod i ben.

Ddydd Sadwrn, cafwyd cyfarfod rhwng Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau John Kerry a Gweinidog Tramor Rwsia, Sergei Lavrov yn y Swistir.

Er i’r trafodaethau bara rhai oriau, doedd dim cytundeb rhwng y gwledydd yn y pen draw.

Dywedodd Kerry mai ei fwriad oedd darganfod ateb “ac eithrio gweithredu’n filwrol” a bod rhai datrysiadau wedi cael eu cynnig.

Ond fe fydd e’n teithio i Lundain i gyfarfod â Johnson, sydd wedi dweud ei fod yn ceisio “opsiynau mwy cinetig”, gan gynnwys mwy o weithredu milwrol.

Mae Arlywydd Syria, Bashar Assad wedi dweud ei fod yn benderfynol o adennill Aleppo oddi ar luoedd o wrthryfelwyr.

Mae sawl plaid wleidyddol yng ngwledydd Prydain wedi galw am sefydlu parth heb awyrennau er mwyn rhoi terfyn ar gyrchoedd awyr tros Aleppo.

Fe fydd cynrychiolwyr o’r Almaen, yr Eidal a Ffrainc yn cymryd rhan yn y trafodaethau yn Llundain.