Dylai Hillary Clinton gymryd prawf cyffuriau, yn ôl ei gwrthwynebydd yn y ras arlywyddol, Donald Trump.

Yn ôl ymgeisydd y Gweriniaethwyr, roedd ymgeisydd y Democratiaid dan ddylanwad cyffuriau yn ystod y ddadl arlywyddol ddiwethaf.

Mae Trump hefyd yn honni y byddai’n carcharu Clinton pe bai e’n dod yn arlywydd.

Fe gyhuddodd Clinton a’r cyfryngau o gynllwynio er mwyn creu etholiad annheg.

Roedd Trump yn ymateb i’r honiadau niferus gan fenywod sy’n dweud bod Trump wedi ymosod arnyn nhw’n rhywiol.

Dywedodd Trump fod yr honiadau’n gelwyddau.

Dywedodd: “Dylid fod wedi erlyn Hillary Clinton a dylai hi fod yn y carchar.

“Yn hytrach, mae hi’n rhedeg i fod yn arlywydd mewn etholiad y mae’r canlyniad yn ymddangos fel un sydd wedi cael ei drefnu ymlaen llaw.”

Ond dydy Trump ddim wedi cynnig unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r honiadau hyd yn hyn.

Mae cyn-bartner etholiadol Trump, Paul Ryan wedi ymbellhau oddi wrth yr honiadau.

Wrth grybwyll defnydd honedig Clinton o gyffuriau, ychwanegodd Trump: “Dw i’n credu ei bod hi’n pwmpio’i hun i fyny, os hoffech chi wybod y gwirionedd.

“Dw i’n credu y dylen ni gael prawf cyffuriau cyn y ddadl, achos dw i ddim yn gwybod beth sy’n digwydd gyda hi.

“Ond ar ddechrau ei dadl ddiwethaf, roedd hi wedi pwmpio i fyny ar y dechrau.”