Mae Donald Trump wedi dweud ei fod yn “anghywir” wrth gael ei recordio’n gwneud sylwadau anweddus am ddynes briod yr oedd am geisio cael perthynas â hi.
Ond fe ddywedodd nad oedd y digwyddiad yn gwneud “mwy na thynnu sylw” oddi ar yr ymgyrch etholiadol.
“Fe ddywedais i bethau ffôl,” meddai mewn fideo ar ei dudalen Facebook fore dydd Sadwrn. “Ond mae gwahaniaeth sylweddol rhwng geiriau a gweithredoedd pobol eraill. Mae Bill Clinton wedi camdrin menywod mewn gwirionedd.”
Fe gyhuddodd Hillary Clinton o “fwlio dioddefwyr” ei gŵr a’u “bwlio, cywilyddio a’u dychryn”.
Mae’r pleidleisio eisoes wedi dechrau mewn nifer o daleithiau.
Cafodd y fideo dan sylw ei recordio yn 2005, ac fe gafodd ei gyhoeddi gan y Washington Post ac NBC.
Yn y fideo, mae Trump yn trafod ceisio cael rhyw â dynes briod, ac mae’n brolio am iddo adael i fenywod ei gusanu ac am gydio ynddyn nhw am ei fod e’n enwog.
Fe ddywedodd: “Pan ydych chi’n seren maen nhw’n gadael i chi ei wneud e. Gallwch chi wneud unrhyw beth.”
Mae aelodau o’r Gweriniaethwyr hefyd wedi beirniadu’r fideo, gan gynnwys cadeirydd y blaid a ddywedodd na ddylai unrhyw fenyw “fyth” orfod diodde’r fath driniaeth.
Mae Trump wedi tynnu’n ôl o ymweliad â Wisconsin, ond fe fydd yn ymddangos mewn dadl ar y teledu nos Sul.
Mae nifer o Weriniaethwyr wedi galw arno i roi’r gorau i’w ymgyrch etholiadol, tra bod gwraig ei bartner etholiadol Mike Pence yn grac, yn ôl adroddiadau.