Mae Corwynt Matthew – y cryfaf ers degawd – ar ei ffordd tua’r Bahamas, ar ôl achosi difrod yn Haiti.
Bu farw o leia’ 11 o bobol yn ystod y storm dros gyfnod o wythnos, a phump ohonyn nhw’n byw yn Haiti.
Tarodd y corwynt Haiti ar gyflymdra o 125 milltir yr awr. Mae rhan o Haiti wedi’i ynysu bellach ar ôl i bont ddymchwel, a’r ynys wedi colli cyswllt ffôn.
Oriau ar ôl gwyntoedd o hyd at 145 milltir yr awr, mae’n ymddangos nad oes gan y llywodraeth ateb i’r sefyllfa eto.
Mae llywodraeth y Bahamas wedi mynegi pryder na fyddan nhw’n gallu ymdopi ag effeithiau’r corwynt pan fydd yn eu taro.
Mae pryderon hefyd y gallai’r corwynt daro arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau’n ddiweddarach, ond mae Canolfan Corwyntoedd Genedlaethol y wlad wedi israddio’r corwynt Categori 4 i storm Categori 3.
Mae rhybudd i drigolion De Carolina adael eu cartrefi cyn i’r corwynt eu cyrraedd nhw, ac mae’r Groes Goch wedi apelio am wirfoddolwyr wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y gwyntoedd cryfion yn y dalaith.