Mae beth bynnag 32 o bobol ar goll, ar ôl tirlithriadau yn ne-ddwyrain China.

Mae ymgyrch i achub 26 o bobol o bentre’ Sucun yn nhalaith Zhejiang yn parhau heddiw, wedi tirlithriad o ganlyniad i wyntoedd a glaw mawr.

Mae chwech o bobol eraill ar goll o bentre’ Baofeng yn yr un dalaith, wedi i law trwm achosi tirlithriad yno hefyd.

Fe ddaeth y glaw mawr yn sgil Teiffwn Megi, a darodd dde-ddwyrain y wlad yn ystod nos Fawrth a dydd Mercher yr wythnos hon. Fe laddwyd pump o bobol yn China a Taiwan ar ddiwrnod cynta’r gwynt a’r glaw, ac fe fu’n rhaid cau ysgolion a swyddfeydd. Fe gafodd rhai cannoedd o ehediadau eu canslo hefyd.

Mae Teiffwn Megi wedi achosi gwerth mwy na £7.6m o ddifrod. Ar ei gryfa’, roedd gwyntoedd Megi yn chwythu ar gyflymder o 74 milltir yr awr.