Mae o leiaf 148 o gyrff wedi eu tynnu o’r dŵr oddi ar arfordir Yr Aifft ar ôl i gannoedd foddi pan wnaeth cwch gorlawn droi drosodd.

Yn ôl awdurdodau’r Aifft, mae’r ymgyrch i ddod o hyd i fwy o gyrff yn parhau ar ôl i gwch oedd yn cario ffoaduriaid droi drosodd ddydd Mercher, bron i 7.5 milltir o ddinas borthladd Rosetta, ger y Nile Delta.

Roedd llawer o’r rhai a fu farw yn fenywod ac yn blant, oedd ddim yn gallu nofio pan wnaeth y cwch foddi ym Môr y Canoldir.

Dywedodd Uwch Gomisiwn y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid ei fod yn amcangyfrif bod y cwch wedi cario 450 o bobol, ond mae amcangyfrifon eraill yn dweud gallai’r nifer fod mor uchel â 600.

“Mae UNHCR wedi’i dristáu gan y marwolaethau ar ôl i gwch arall foddi ym Môr y Canoldir,” meddai’r asiantaeth ffoaduriaid mewn datganiad.

Arestio pedwar ‘smyglwr’

O’r 150 a gafodd eu hachub, dywedodd y Comisiwn bod y rhan fwyaf yn bobol o’r Aifft, o Sudan ac o wledydd eraill fel Somalia ac Eritrea.

Cafodd pedwar person, wedi’u disgrifio fel smyglwyr, eu harestio ddydd Iau ac mae’r awdurdodau yn ymchwilio.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae nifer y bobol sydd wedi marw wrth geisio cyrraedd Ewrop ar gwch eleni wedi pasio 3,500.

Mae mwy na 300,000 o ffoaduriaid a mudwyr wedi croesi Môr y Canoldir eleni, gyda’r rhan fwyaf yn cyrraedd Yr Eidal a Gwlad Groeg.

Fe wnaeth dros filiwn groesi yn ystod 2015, gydag o leiaf 3,675 o bobol wedi marw, ond mae nifer y meirw llawer yn uwch eleni.