Yr ymosodiad yn Nice ym mis Gorffennaf (Llun: PA)
Mae wyth o bobol wedi eu harestio o’r newydd heddiw gan awdurdodau Ffrainc mewn cysylltiad â’r ymosodiad yn Nice ym mis Gorffennaf.

Cafodd 86 o bobol eu lladd wrth i lori yrru ar hyd promenâd y dref glan môr ar ddiwrnod Bastille – diwrnod o wyliau cenedlaethol yn Ffrainc.

Dywedodd yr awdurdodau fod yr wyth o dan amheuaeth yn dod o Ffrainc a Thiwnisia a bod ganddynt gysylltiadau â’r ymosodwr – Mohamed Lahouaiej Bouhlel.

Cafodd Bouhlel, oedd yn gyrru’r lori 19 tunnell, ei saethu’n farw gan yr heddlu ar ôl gyrru a tharo’r dorf yn fwriadol ar Orffennaf 14.

Cefndir

Eisoes, mae o leiaf pump o bobol yn wynebu cyhuddiadau cychwynnol am frawychiaeth yn ymwneud â’r ymosodiad, ac wedi’u cyhuddo o helpu Bouhel i gael gafael ar wn a chynorthwyo mewn ffyrdd eraill.

Fe wnaeth grŵp brawychol y Wladwriaeth Islamaidd (IS) hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad, a dywedodd awdurdodau Ffrainc fod Bouhel wedi’i ysbrydoli gan bropaganda eithafol y grŵp.