Yr Arlywydd Vladimir Putin Llun: PA
Mae plaid yr Arlywydd Vladimir Putin, Rwsia Unedig, wedi ennill y mwyafrif o seddi yn etholiadau seneddol y wlad hyd yn hyn.
Mae 93% o’r pleidleisiau wedi’u cyfrif ers yr etholiad ddoe, ac mae’r canlyniadau’n dangos fod y blaid Rwsia Unedig wedi llwyddo i gael 343 o seddi allan o 450 posib yn y Duma, sef senedd y wlad.
A dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadau nad oedd yn rhagweld y canlyniadau’n newid yn syfrdanol wrth i weddill y pleidleisiau gael eu cyfrif.
Mae hyn yn gynnydd sylweddol i’r blaid a oedd eisoes yn cynnal mwyafrif yn y senedd, ond nawr mae ganddyn nhw ddigon o seddi i newid y cyfansoddiad wrth eu hunain. Fe allai arwain at bedwerydd tymor i Putin yn etholiadau’r wlad yn 2018.
Y pleidiau eraill i ennill seddi yw’r Blaid Gomiwnyddol gyda 42, y Democratiaid Rhyddfrydol â 39, A Just Rwsia â 23, ynghyd â dwy sedd i bleidiau llai ac un annibynnol.
Er hyn, roedd y nifer a aeth allan i bleidleisio eleni yn llai na’r etholiadau y tro diwethaf yn 2011, gyda 48% eleni o gymharu â 60% pum mlynedd yn ôl.