Mae byddin Rwsia wedi cyhuddo gwrthryfelwyr Syria o dorri amodau cadoediad 55 o weithiau yn ystod y diwrnod diwethaf.

Mae’r gwrthryfelwyr wedi cael eu cyhuddo o ymosod ar filwyr a phobol gyffredin yn Aleppo.

Yn ôl asiantaeth newyddion Interfax, dywedodd y Cadfridog Sergei Kopytsin fod Aleppo wedi cael ei tharo 26 o weithiau.

Daeth cadoediad i rym ddydd Llun yn dilyn trafodaethau rhwng yr Unol Daleithiau a Rwsia.

Roedd cymorth dyngarol i fod i gyrraedd Aleppo yn dilyn y cadoediad, ond dydy’r cerbydau ddim wedi cael mynediad hyd yn hyn.

Mae Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin yn anhapus fod yr Unol Daleithiau wedi gwrthod cyhoeddi manylion y cadoediad, ond mae’n dweud na fydd yntau’n eu cyhoeddi.