Mae heddlu a swyddogion ym Mharis wrthi’n symud tua 1,600 o ffoaduriaid sydd wedi bod yn byw ar strydoedd y brifddinas ers wythnosau.

Mi fydd y merched, dynion a’r plant yn cael eu gwasgaru a’u gyrru i 74 o safleoedd o amgylch Paris, lle bydd y rhai sy’n gymwys i wneud cais am noddfa yn medru gwneud hynny.

Dywedodd swyddog gweinyddol bod dros 1,000 o bobol o wledydd megis Afghanistan, Sudan ac Eritrea wedi cael eu symud o strydoedd Montmartre, sydd yng ngogledd y brifddinas, erbyn hyn.

Roedd rhai yn gwrthod cael eu symud i safleoedd eraill ym Mharis am eu bod nhw eisiau gwneud eu ffordd i Brydain.

Yn ôl Maer Paris, Anne Hidalgo, mae dwsinau o ffoaduriaid yn cyrraedd gogledd Paris bob diwrnod.

Mae Ffrainc eisoes wedi cael ei beirniadu am ei ffordd o ddelio hefo argyfwng y ffoaduriaid, yn benodol am adael i filoedd o bobol ar ffo fyw mewn amgylchiadau aflan yn Calais.