Mahmoud Abbas - wedi cytuno i eistedd o gylch y bwrdd efo Benjamin Netanyahu
Mae arweinwyr Israel a Phalesteina wedi cytuno “mewn egwyddor” i gyfarfod yn ninas Mosgow ac eistedd i lawr o gwmpas y bwrdd.

Fe ddaeth cadarnhad o Rwsia heddiw fod atebion cadarnhaol wedi dod o swyddfeydd arlywydd Palesteina, Mahmoud Abbas, a phrif weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, i’r syniad o gynnal trafodaethau.

Dyw hi ddim yn glir eto pryd yn union y bydd y cyfarfod yn digwydd, ond mae sibrydion o Fosgow yn awgrymu bod gan Rwsia ddiddordeb mewn cynnal y trafodaethau arwyddocaol.

Mae hi’n flwyddyn ers i Mr Abbas a Mr Netanyahu ysgwyd llaw yn ystod cynhadledd ar newid yn yr hinsawdd ym Mharis. Dydyn nhw ddim wedi cyfarfod yn ffurfiol i drafod gwaith ers 2010.