Mae dau o bobl wedi cael eu lladd a channoedd o filoedd o bobl heb drydan wrth i gorwynt Hermine symud tua’r gogledd ar hyd arfordir dwyreiniol America.

Fe wnaeth y corwynt daro Florida ddydd Gwener ac roedd wedi cyrraedd Maryland erbyn y bore yma. Mae rhybuddion stormydd trofannol mewn grym cyn belled i’r gogledd â Connecticut.

Roedd y gwyntoedd a’r glaw mor gryf yn nhalaith Gogledd Carolina ddoe fel y bu’n rhaid cau pontydd am rai oriau. Cafodd gyrrwr lori ei ladd yno wrth i’w lori 18 olwyn droi drosodd yn y gwynt, ac yn gynharach cafodd dyn digartref ei ladd yn Florida ar ôl cael ei daro gan goeden yn disgyn.

Mae pryder y bydd y corwynt yn arwain at lifogydd hefyd, yn enwedig oherwydd bod lefel y môr yn uwch yn sgil cynhesu byd-eang.

“Rydym eisoes yn profi mwy a mwy o lifogydd oherwydd newid hinsawdd ym mhob storm,” meddai Michael Oppenheimer, athro gwyddorau daear ym mhrifysgol Princeton. “A dim ond y dechrau yw hyn.”