Donald Trump (llun: AP/David Goldman)
Bydd y cymeriad dadleuol Donald Trump, sydd yn y ras i fod yn arlywydd nesaf America, yn gwneud ymddangosiad annisgwyl ym Mecsico heddiw.

Mae ymgeisydd y Gweriniaethwyr, ynghyd ag ymgeisydd y Democratiaid, Hillary Clinton, wedi cael eu gwahodd i’r wlad gan yr Arlywydd Enrique Pena Nieto.

Bydd Donald Trump ym Mecsico oriau yn unig cyn bod disgwyl iddo gyflwyno araith ar fewnfudo yn America.

Dywedodd y biliwnydd ar Twitter ei fod yn “edrych ymlaen yn fawr” at gael cwrdd ag arlywydd y wlad mewn cyfarfod preifat heddiw.

Adeiladu wal

Wrth ymgyrchu i fod yn arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau, mae Donald Trump wedi dweud y byddai’n adeiladu wal ar y ffin rhwng ei wlad a Mecsico, ac yn gwneud i lywodraeth Mecsico dalu amdani.

Mae’r Arlywydd Enrique Pena Nieto wedi bod yn feirniadol iawn o alwadau dadleuol Trump, gan ddweud na fyddai Mecsico yn talu am y wal “dan unrhyw amgylchiadau.”

Fe wnaeth hefyd gymharu iaith Trump ag unbeniaid Adolf Hitler a Benito Mussolini, gan ddweud ei fod wedi gwneud niwed i berthynas America â Mecsico.

Ond dydd Mawrth, fe ddywedodd ar Twitter ei fod yn “credu mewn deialog i hyrwyddo buddiannau Mecsico yn y byd ac yn bennaf i ddiogelu pobol Mecsico, lle bynnag y maen nhw.”

Bydd Donald Trump yn gwneud ei araith “fawr” ar fewnfudo yn ninas Phoenix, Arizona nos Fercher.