Paul Flynn, (Llun: O wefan yr AS)
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi galw am ddileu’r system bresennol dros gofnodi treuliau Aelodau Seneddol.

Yn ôl Paul Flynn, AS Llafur Casnewydd, ac arweinydd yr wrthblaid yn Nhŷ’r Cyffredin, dyw’r system, a gafodd ei sefydlu yn dilyn sgandal treuliau ASau yn 2009, heb adfer hyder y cyhoedd yn eu cynrychiolwyr yn San Steffan.

Mae hefyd yn dweud bod y system yn rhy fiwrocrataidd a chymhleth, sy’n cymryd gormod o amser Aelodau Seneddol.

Yn hytrach, mae’n galw am system symlach a fyddai’n diddymu treuliau ASau ac yn rhoi lwfans awtomatig i bob un.

Byddai’r lwfansau newydd yn cael eu pennu ar sail y pellter mae’n rhaid i ASau deithio i gyrraedd San Steffan, ac y byddai’n cael ei dalu’n awtomatig, meddai.

“Troseddau treuliau yn dal i ddigwydd”

Cafodd yr Awdurdod Annibynnol i Safonau Seneddol (IPSA) ei sefydlu ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod llawer o Aelodau Seneddol Prydain wedi bod yn camddefnyddio’r hen system dreuliau.

Mae Paul Flynn yn dweud bod y system bresennol wedi cael ei chreu mewn “panig ac ofn” yn sgil y sgandal, ac mai nawr yw’r cyfle i’w newid.

Cafodd y system ei gynllunio, yn ôl yr AS i fod yn “ganllaw yn erbyn twyll newydd, codi hyder y cyhoedd yn ASau eto (a) chreu corff annibynnol o ddwylo Aelodau Seneddol.”

Ond meddai Paul Flynn ei bod wedi “methu ymhob un o’r tri uchelgais hwnnw.”

“Mae IPSA yn gwastraffu £6 miliwn bob blwyddyn ac yn gwneud dim gwelliant o gwbl i enw da Aelodau Seneddol,” meddai wrth Golwg360.

“Mae treuliau yn dal i fod yn uchel, mae troseddau (treuliau) yn parhau i ddigwydd a dydy IPSA ddim yn gwneud y swydd oedd wedi cael ei sefydlu i’w gwneud.”

‘Brwydr wallgof’ Llafur

Er mai yn y dyddiau diwethaf y cyhoeddodd y syniad ar ei flog, dywedodd yr AS wrth Golwg360, bod hyn yn rhan o adroddiad ysgrifennodd naw mis yn ôl, pan oedd yn dal i fod ar y meinciau cefn.

Roedd yn mynnu nad oedd hyn i’w wneud o gwbl â’i rôl yng nghabinet Jeremy Corbyn, a dywedodd bod y sefyllfa yn y Blaid Lafur ar hyn o bryd fel “brwydr wallgof” sy’n “dinistrio’r blaid.”