Safle'r daeargryn yr Eidal (Sting a NordNordWest CCA3.0)
Mae’n ddiwrnod o alar cenedlaethol yn yr Eidal ar ôl i 284 o bobl gael eu lladd yn y daeargryn yng nghanolbarth y wlad yr wythnos yma.
Mae’r arlywydd Sergio Mattarella wedi ymweld ag Amatrice, y dref a gafodd ei tharo waethaf, a bydd ef a’r prif weinidog Matteo Renzi yn mynd i angladd gwladol mewn tref arall gyfagos yn ddiweddarach yn y dydd.
Mae pryder y gall nifer y marwolaethau godi eto gan fod rhai pobl yn dal i fod ar goll.
Dros nos, cafwyd rhagor o ôl-gryniadau yn yr ardal, gyda’r cryfaf am 4.50am yn mesur 4.2.