Y difrod wedi'r daeargryn yn Amatrice, yr Eidal Llun: PA
Mae timau achub wedi bod yn gweithio drwy’r nos i geisio achub pobl o’r rwbel yn dilyn daeargryn nerthol yn yr Eidal ddydd Mercher.
Mae nifer y meirw wedi codi i 247 erbyn bore dydd Iau, ond mae nifer y meirw a’r rhai sydd ar goll yn ansicr oherwydd y miloedd o bobl a oedd yn yr ardal ar eu gwyliau dros yr haf.
Cafodd trigolion eu deffro yn oriau man fore dydd Mercher wrth i’r daeargryn, a oedd yn mesur 6.2 ar raddfa Richter, daro, gan ddymchwel adeiladau cyfan o fewn eiliadau.
“Nid yw’r dref yma bellach,” meddai Sergio Pirozzi, maer Amatrice, un o’r trefi gafodd ei heffeithio waethaf. “Rwy’n credu y bydd nifer y meirw yn codi.”
Roedd y daeargryn wedi taro rhanbarth Lazio, Umbria a Le Marche, ardaloedd sydd wedi cael eu taro gan ddaeargrynfeydd yn y gorffennol. Roedd hefyd wedi cael ei deimlo yn Rhufain.
Cafodd dwsinau o bobl eu hachub o adeiladau sydd wedi dymchwel gan dimau achub a gwirfoddolwyr sydd wedi heidio yno o bob rhan o’r Eidal, rhai yn cloddio gyda’u dwylo i symud y rwbel.
Neithiwr, tua 17 awr ar ôl y daeargryn, cafodd merch 10 oed ei thynnu’n fyw o’r rwbel gan ddiffoddwyr tan yn Pescara del Tronto.
Mae Prif Weinidog yr Eidal Matteo Renzi wedi ymweld â’r ardal gan roi addewid na fydd “yr un teulu, dinas, na phentref yn cael eu gadael ar ôl.”
Ymhlith y trefi gafodd eu heffeithio waethaf roedd Amatrice ac Accumoli ger Rieti, tua 60 milltir i’r gogledd ddwyrain o Rufain, a Pescara del Tronto, i’r dwyrain.
Cafodd canol tref canoloesol Amatrice ei difrodi’n llwyr. Mae timau achub wedi ei chael yn anodd i gyrraedd rhai o’r pentrefi mynyddig oherwydd eu safle anghysbell.
Mae gwersylloedd wedi cael eu sefydlu yn y pentrefi ar gyfer y miloedd o bobl sydd bellach yn ddigartref.