Milwyr PKK - y nhw sy'n cael eu bai gan yr awdurdodau am y ddau ffrwydriad yn Twrci (Llun: James Gordon CCA 2.0)
Mae beth bynnag chwech o bobol wedi’u lladd, a mwy na 120 o bobol eraill wedi’u hanafu, gan ddwy fom car yn nwyrain Twrci.

Fe laddodd ymosodiad ar orsaf heddlu yn nhalaith ddwyreiniol Van blismon a dau o bobol gyffredin yn hwyr nos Fercher. Mae dwsinau o bobol eraill, yn cynnwys tua 20 o blismyn, wedi’u hanafu.

Yna, ben bore heddiw, mae bom car arall wedi taro pencadlys yr heddlu yn ninas Elazig yn nwyrain y wlad. Mae adroddiadau’n dweud fod tri o blismyn wedi’u lladd, a bron i gant o bobol wedi’u hanafu.

Mae’r awdurdodau wedi beio plaid gweithwyr y Cwrdiaid, neu’r PKK, am yr ymosodiadau.