Myfyrwyr yn graddio (Clawed CCA 3.0)
Mae 16,600 o fyfyrwyr Cymru wedi cael eu derbyn i’r Brifysgol, yn ôl ffigurau UCAS.

Ledled gwledydd Prydain mae 424,000 wedi cael eu derbyn – cynnydd o 3% ar y llynedd.

Dyma’r nifer uchaf a gofnodwyd ar ddiwrnod canlyniadau Lefel A.

Mae yna hefyd mwy o dderbyniadau o grwpiau oedran hŷn, gyda derbyniadau ar gyfer y rhai sy’n 25 oed neu’n hŷn DU i fyny 8% ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae nifer y myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd wedi cynyddu i 26,800, y nifer uchaf a gofnodwyd, ac mae derbyniadau rhyngwladol wedi aros ar tua’r un lefel â 2015ar 29,300.

Mae dros 27,400 yn fwy o ferched ifanc na dynion o wledydd Prydain wedi cael eu derbyn i brifysgol, ond mae bwlch hwn ychydig yn gulach nag yn 2015.

Meddai Mary Curnock Cook, prif weithredwr UCAS,: “Mae hwn yn ddiwrnod mawr i gannoedd o filoedd o bobl ifanc sydd wedi dewis dechrau ar eu bywyd fel oedolion mewn addysg uwch.

“Rwy’n arbennig o falch o weld yr arwyddion bach cyntaf o welliant i ddynion ifanc, er eu bod yn parhau i fod yn rhy bell y tu ô i ferched.”