Mae Maer yn Ffrainc wedi gwahardd presenoldeb rhithiol cymeriadau gêm Pokemon Go o’i bentre’, ac wedi gorchymyn y dylai’r cwmni sy’n gyfrifol am y gêm barchu ei ddymuniad.

Mae Fabrice Beauvois, Maer Bressolles, wedi anfon ei gyhoeddiad at y cwmni yng Nghaliffornia sy’n gyfrifol am y gêm, er mwyn gwneud yn siwr na fyddan nhw’n gosod eu cymeriadau yn y pentre’ o 800 o drigolion i’r gogledd-ddwyrain o Lyon.

Mae wedi pwysleisio mai targedu cwmni Niantic Inc a The Pokemon Company y mae o, ac nid y rheiny sy’n chwarae’r gêm. Bressolles ydi’r lle cynta’ yn Ffrainc i wneud cyhoeddiad fel hyn.