Mae Boko Haram wedi cyhoeddi fideo sy’n honni bod merched ysgol a gafodd eu cipio ganddyn nhw yn Nigeria wedi cael eu lladd mewn cyrchoedd awyr gan fyddin y wlad.

Mae’r fideo yn dangos un o’r merched yn pledio ar yr awdurdodau i ryddhau gwrthryfelwyr fel bod modd rhyddhau’r merched hefyd.

Roedd y ferch ymhlith 276 o ferched a gafodd eu cipio o ysgol yng ngogledd-ddwyrain y wlad yn 2014.

Mae hi’n honni bod nifer o ferched yn ei dosbarth wedi cael eu lladd yn ystod cyrchoedd awyr, a bod 40 wedi “priodi” eithafwyr Islamaidd.

Cafodd y fideo ei chyhoeddi ar y we gan y newyddiadurwr Ahmad Salkida.

Mae’r fideo’n honni bod y merched Chibok yn cael eu cadw gan arweinydd Boko Haram, Abubakar Shekau.

Mae 218 o ferched ar goll o hyd.