Mae dynes 34 oed wedi marw o ganlyniad i’w hanafiadau yn dilyn ymosodiad ar drên yn Y Swistir ddydd Sadwrn.
Mae’r dyn wnaeth ymosod arni bellach wedi marw yn yr ysbyty.
Cafodd chwech o bobol eu hanafu, rhai yn ddifrifol, ar ôl iddyn nhw gael eu trywanu yn Salez yn ardal St Gallen, ger y ffin â Liechtenstein.
Mae lle i gredu mai dyn 27 oed oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad. Rhoddodd e’r trên ar dân yn dilyn yr ymosodiad, a chafodd nifer o bobol eu llosgi.
Roedd plentyn chwech oed ymhlith y rhai a gafodd eu hanafu.