Mae’r
awdurdodau yn yr Unol Daleithiau wedi cadarnhau eu bod nhw wedi lladd un o arweinwyr amlyca’r Wladwriaeth Islamaidd yn Afghanistan, Hafiz Saeed Khan.

Yn ôl yr awdurdodau, cafodd ei ladd gan ddrôn yn nhalaith Nangahar ar Orffennaf 26.

Roedd yr Unol Daleithiau’n ei ystyried yn fygythiad ar lefel fyd-eang, gan ddweud ei fod yn arwain y Wladwriaeth Islamaidd yn Khorasan, sydd hefyd yn cynnwys cyn-aelodau o’r Taliban ym Mhacistan ac Afghanistan.

Roedd Khan ar un adeg yn arweinydd y Tehrik-e-Taliban, cyn troi ei sylw at y Wladwriaeth Islamaidd o dan yr arweinydd Abu Bakr al-Baghdadi.