Dydy’r sicrwydd ynghylch arian Ewropeaidd sydd wedi cael ei roi gan Lywodraeth Prydain i Gymru ddim yn ddigonol, medd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Mae disgwyl cyhoeddiad ddydd Sadwrn gan Ganghellor San Steffan, Philip Hammond yn amlinellu’r arian fydd yn cael ei roi i brosiectau oedd yn eu lle cyn i Brydain bleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond yn ôl Carwyn Jones, dim ond hanner yr arian i Gymru sy’n sicr.

Mae disgwyl i’r Trysorlys gyhoeddi y bydd lefelau cyllido amaeth yng Nghymru’n aros ar eu lefel bresennol tan 2020, yn unol â chynllun CAP (Polisi Amaethyddol Cyffredin).

Mae disgwyl hefyd i Hammond amlinellu cynlluniau i asesu a fydd arian yn cael ei sicrhau i brosiectau penodol tra bydd Prydain yn dal yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Ac mae disgwyl i Lywodraeth Prydain warantu taliadau sydd wedi cael eu dyfarnu yn dilyn ceisiadau i’r Comisiwn Ewropeaidd am brosiectau, gan gynnwys ceisiadau gan brifysgolion, hyd yn oed os yw’r prosiectau’n parhau ymhell ar ôl Brexit.

“Ddim yn mynd yn ddigon pell”

Er ei fod yn cydnabod fod cyhoeddiad Llywodraeth Prydain yn “gam i’r cyfeiriad iawn”, dywedodd Carwyn Jones nad yw’n “mynd yn ddigon pell”.

Mae disgwyl i Gymru dderbyn £1.89 biliwn rhwng 2014 a 2020 ar gyfer adfywio ardaloedd difreintiedig.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd faint o arian fydd yn cael ei ddiogelu ar gyfer cynlluniau sydd eisoes yn weithredol neu a fydd yn eu lle cyn Datganiad yr Hydref.

Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, mae ymrwymiad eisoes i sicrhau £830 miliwn, gyda gwerth £375 miliwn o brosiectau wedi datblygu’n sylweddol.

Mae Cymru hefyd yn derbyn £200 miliwn y flwyddyn drwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, ynghyd â £957 miliwn drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig rhwng 2014 a 2020, sy’n cynnwys £400 miliwn ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru.

“Cam i’r cyfeiriad iawn”

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:

“Er bod y cyhoeddiad heddiw’n gam i’r cyfeiriad iawn ac yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i fusnesau, sefydliadau a chymunedau sy’n derbyn cyllid yr UE, nid yw’n ddigon.

“Dim ond tua hanner y cyllid rhanbarthol i ddod i Gymru mae’r gwarant hwn yn rhoi sylw iddo ac nid yw’n darparu’r sicrwydd tymor hir sydd ei angen ac a addawyd cyn y refferendwm.

“Nawr mae’n rhaid i ni glywed yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU am fanylion y cyhoeddiad.

“Mae’n rhaid i ni gael ‘gwarant llawn’ y bydd cyllid yn parhau ar gyfer ein rhaglenni UE presennol hyd at 2023.

“Hefyd nid yw’n afresymol disgwyl cyllid pellach i roi sylw i anghenion economaidd a chymdeithasol Cymru, yn enwedig cefnogaeth i’n hardaloedd mwyaf difreintiedig, ar ôl y dyddiad hwn.

“Rydyn ni wedi dweud yn glir wrth Lywodraeth y DU bod achos eithriadol gryf nawr dros adolygiad mawr, ar fyrder, o Fformiwla Barnett, i ystyried anghenion Cymru yn sgil tynnu allan o’r UE.”