Mae ymgeisydd y Gweriniaethwyr am arlywyddiaeth America, Donald Trump, wedi ei gael ei hun mewn trwbwl ar ôl iddo “awgrymu” y gall ei gefnogwyr “gael gwared” â Hillary Clinton, pe bai’n ei guro yn y ras.
Dywedodd wrth gefnogwyr hawliau gynnau y gallan nhw “ddod o hyd i ffordd o atal” Hillary Clinton.
Mae aelodau’r Democratiaid wedi cyhuddo’r biliwnydd o annog trais yn erbyn ei gystadleuydd.
Dywedodd na fyddai pobol sydd am gadw cyfreithiau gynnau yn gallu gwneud dim os byddai Hillary Clinton yn dod yn Arlywydd y wlad.
“Er pobol y Second Amendment (rhan o gyfansoddiad America sy’n nodi’r hawl i ynnau), falle bod,” meddai wrth ei gefnogwyr mewn rali yng Ngogledd Carolina.
“Ond fe wnâi ddweud wrthoch chi, byddai hynny’n ddiwrnod ofnadwy.”
Dywedodd rheolwr ymgyrch Hillary Clinton, Robby Mook, bod yr hyn y mae Trump yn ei ddweud yn “beryglus.”
“Dylai person sy’n ceisio bod yn arlywydd ar yr Unol Daleithiau ddim awgrymu trais yn y ffordd hon,” meddai.
Mynnodd Donald Trump ei fod yn cyfeirio at bleidleisio wrth wneud ei sylwadau ac nad oedd “unrhyw ffordd arall o’u dehongli.”