Mae gyrfa lewyrchus Oscar Pistorius fel para-athletwr yn atgof pell ers iddo gael ei garcharu am lofruddio'i gariad yn 2013
Mae’r para-athletwr o Dde Affrica, Oscar Pistorius wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty ar ôl cael ei anafu yn y carchar.

Mae Pistorius dan glo am chwe blynedd am lofruddio’i gariad Reeva Steenkamp yn 2013.

Yn ôl Pistorius, fe gwympodd allan o’r gwely yn ei gell, ac mae rhai adroddiadau’n awgrymu ei fod e wedi cael anafiadau i’w arddyrnau.

Ond mae’r awdurdodau’n gwrthod gwneud sylw am y digwyddiad.

Dychwelodd Pistorius i’w gell ddydd Sadwrn, ac mae ymchwiliad ar y gweill.

Fis diwethaf, dywedodd erlynwyr eu bod nhw’n bwriadu herio’r ddedfryd o chwe blynedd am ei bod yn rhy fyr.

Cafodd Reeva Steenkamp ei saethu’n farw trwy ddrws yr ystafell ymolchi gan Pistorius ar Ddydd San Ffolant yn 2013, wrth i Pistorius ddweud ei fod yn credu bod lleidr yn ei gartref.