Mae trefnwyr Y Gemau Olympaidd yn Rio yn gobeithio rhoi taw ar y sylw negyddol heno gyda’r agoriad swyddogol.
Bu sawl cwmwl dros y Gemau ym Mrasil: ffrae fawr ynghylch cystadleuwyr yn defnyddio cyffuriau anghyfreithlon i wella’u perfformiad; ofnau am y feirws Zika yn arwain at gystadleuwyr yn aros adref; a gwaith adeiladu lleoliadau yn rhedeg yn hwyr a chael ei orffen ar y funud olaf.
Ond mae disgwyl tân gwyllt a phawb yn gwenu pan fydd Gemau Olympaidd rhif 31 yn agor heno yn stadiwm anferth y Maracana.
Bydd 23 o Gymry ymhlith y 366 o athletwyr yn nhîm Prydain.
Ac mae disgwyl i filoedd wylio’r achlysur heno agyda’r seremoni agoriadol yn dathlu hanes, cerddoriaeth ac amrywiaeth Brasil.