Mae batiwr 20 oed Morgannwg Nick Selman wedi canmol caeau allanol y sir ar ôl taro’i gyfanswm unigol gorau erioed mewn gêm dosbarth cyntaf ar ail ddiwrnod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton yn San Helen.

Roedd Selman yn 79 heb fod allan ar ddiwedd y dydd, sy’n golygu ei fod e wedi taro tri hanner canred mewn tair gêm Bencampwriaeth yn olynol – gan gynnwys 57 yn erbyn Swydd Derby ym Mae Colwyn a 52 yn erbyn Swydd Sussex yn Hove.

Ar ôl ei fatiad diweddaraf yn Abertawe, dywedodd yr Awstraliad wrth Golwg360: “Dw i’n credu bod y lleiniau ychydig yn arafach [ar gaeau allanol] ac mae hynny’n rywbeth mae angen i chi ddygymod ag e wrth ddod i mewn i’r gêm.

“Dw i wrth fy modd yn chwarae yn y caeau allanol, mae’n dipyn o achlysur. Roedd y llain ychydig yn araf heddiw ond doedd hi ddim mor wahanol â hynny i’r Swalec.”

Bydd Selman yn ail-ddechrau ei fatiad yn y bore gyda Morgannwg yn 139-5, 182 o rediadau y tu ôl i gyfanswm batiad cynta’r ymwelwyr, ac mae’ngwybod fod y sesiwn gynta’n hanfodol wrth iddo geisio’i ganred cyntaf.

“Ry’n ni wedi colli pum wiced felly mae bore fory’n hanfodol bwysig. Os gallwn ni ddod drwy’r ugain pelawd cyntaf, byddwn ni mewn sefyllfa dda i fynd â’r gêm yn ei blaen.

“Mae’r cae yn araf ond os y’ch chi’n aros allan yna’n ddigon hir, ry’ch chi’n mynd i wynebu pelenni gwael a rhaid i chi fod yn barod i’w bwrw nhw.

“Dwi ddim wedi bod yn trosi’r hanner canred yn gyfanswm mawr ond gobeithio y galla i wneud hynny fory. Mae wedi bod yn rhwystredig ar ôl cael dechrau da i golli fy wiced. Ond gobeithio y galla i gael cyfanswm da i’r tîm fory.”

Canred cyntaf ar y gorwel?

Byddai canred yn ffordd ddelfrydol o ad-dalu ffydd y clwb ynddo, meddai Selman, a gafodd gynnig cytundeb tair blynedd newydd ym mis Mehefin.

Ac mae’n ymddangos bod ei benderfyniad cyn hynny i ganolbwyntio’n llwyr ar griced ar ôl cyfnod yn chwarae pêl-droed Awstralaidd (AFL) yn Brisbane wedi talu ar ei ganfed.

“Roedd yn wych cael arwyddo i’r clwb ac mae’r tîm hyfforddi’n wych felly roedd y penderfyniad i ymrwymo i’r clwb ar gyfer y dyfodol yn un hawdd.”

Orielwyr San Helen

Dyma flas cyntaf Selman ar Ŵyl Griced Abertawe a De Orllewin Cymru, sy’n cael ei threfnu gan Orielwyr San Helen.

Ar ôl seremoni i anrhydeddu hanes criced yn San Helen ar y diwrnod cyntaf, dywedodd Selman ei fod wedi dod i wybod am bwysigrwydd y clwb cefnogwyr yn ei gyfnod byr gyda’r sir.

“Dw i ddim wedi bod gyda’r clwb yn hir iawn ond ers i fi fod yma, dw i wedi dod i sylweddoli eu bod nhw’n cael effaith fawr ar y clwb ar y cae ac oddi arni, ac mae hynny’n wych.

“Bydd gyda ni achlysur gyda nhw ar ddiwedd y tymor felly bydd hi’n wych cael cwrdd â nhw’n iawn bryd hynny, ac mae’r bois yn gwerthfawrogi’n fawr yr hyn maen nhw’n ei wneud.”