Mae David Lloyd wedi sicrhau ei ffigurau bowlio dosbarth cyntaf gorau erioed wrth iddo gipio tair wiced am 36 ar ail ddiwrnod gêm Bencampwriaeth Morgannwg yn erbyn Swydd Northampton yn San Helen.
Cafodd yr ymwelwyr eu bowlio allan am 321 yn ystod sesiwn y prynhawn ar ôl dechrau’r diwrnod ar 101-4.
Daeth wiced gyntaf y bowliwr 24 oed o Lanelwy yn ystod sesiwn y bore wrth iddo waredu Laurie Evans am 74, a’r batiwr yn darganfod dwylo diogel y wicedwr Mark Wallace yn ei gêm gyntaf i’r sir ar ôl symud ar fenthyg o Swydd Warwick.
Yr un deuawd gafodd wared ar Rory Kleinveldt gyda’r cyfanswm yn 300-7 ar ddiwedd partneriaeth o 130 rhwng y capten a Saif Zaib (65 heb fod allan).
Graeme White oedd y trydydd batiwr i ddioddef dan law Lloyd, wrth iddo daro ergyd yn syth at gapten Morgannwg Jacques Rudolph.
Collodd yr ymwelwyr eu tair wiced olaf am 21 rhediad, gan orffen yn brin o’r cyfanswm y bydden nhw wedi hoffi ei gael ar lain sy’n cynnig ychydig iawn o gymorth i’r bowlwyr.
Lloyd oedd yr ail fowliwr o Gymru i gipio tair wiced yn y batiad, ar ôl i Lukas Carey orffen gyda ffigurau o 3-59 yn ei gêm gyntaf i’r sir.