Yr Arlywydd Francois Hollande Llun: PA
Yn dilyn cyfarfod â’r Arlywydd Francois Hollande, mae arweinwyr crefyddol Ffrainc wedi galw am wella diogelwch yn addoldai’r wlad.
Mae hynny’n dilyn ymosodiad brawychol mewn eglwys yn Normandy ddoe, lle cafodd yr offeiriad, y Tad Jaques Hamel, 85, ei ladd gyda chyllell.
Mae’r Wladwriaeth Islamaidd, IS, wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.
Yn y DU, mae arweinwyr crefyddol wedi cael eu hannog i adolygu eu trefniadau diogelwch mewn addoldai yn dilyn yr ymosodiad.
Dywedodd Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Heddlu na ddylai’r gymuned Gristnogol fod wedi’u dychryn ond y dylai fod yn “wyliadwrus” o unrhyw rybuddion, a rhoi gwybod i’r heddlu am unrhyw bryderon.
Tag electroneg
Yn yr ymosodiad ddoe, roedd dau ddyn wedi ymosod ar yr offeiriad, gan gadw pobol eraill oedd yn yr eglwys yn Saint-Etienne-du-Rouvray yn wystlon am tuag awr. Cafodd y ddau ddyn eu saethu’n farw gan yr heddlu.
Daeth i’r amlwg bod un ohonynt, Adel Kermiche, 19, wedi bod yn gwisgo tag electroneg adeg yr ymosodiad, a’i fod wedi osgoi’r heddlu ddwywaith drwy ddefnyddio enwau aelodau o’i deulu mewn ymdrech i gyrraedd Syria.
Mae un person arall wedi cael eu cadw yn y ddalfa mewn cysylltiad â’r ymchwiliad.
Brwydro yn erbyn IS
Mae Arlywydd Ffrainc wedi rhoi addewid i frwydro yn erbyn IS “gan ddefnyddio pob dull posib.”
Ond mae wedi galw ar bobl y wlad i aros yn unedig ac nid troi yn erbyn ei gilydd.