Awyren debyg i MH370 aeth ar goll yn 2014 (Llun: Malaysia Airlines)
Fe fydd y chwilio am awyren Malaysia Airlines 370 yn cael ei atal ar ôl i’r chwilio yng Nghefnfor India ddod i ben.
Yn ôl llywodraethau Malaysia, Awstralia a China, does dim tystiolaeth newydd i awgrymu beth yn union ddigwyddodd i’r awyren cyn mynd ar goll ar Fawrth 8, 2014.
Fe allai’r cyhoeddiad olygu diwedd ar obeithion y teuluoedd o ddarganfod beth ddigwyddodd i’w hanwyliaid.
Dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth Malaysia, Liow Tiong Lai fod y chwilio’n dod i ben yn dilyn cytundeb rhwng y tair gwlad.
Ond roedd yn mynnu nad oedd atal y chwilio’n golygu rhoi’r gorau iddi’n llwyr.
Mewn datganiad, dywedodd: “Pe bai gwybodaeth newydd gredadwy yn dod i’r golwg er mwyn gallu adnabod union ardal yr awyren, yna fe fyddem yn ystyried y camau nesaf.”
Ond ychwanegodd fod “y tebygolrwydd o ddarganfod yr awyren yn pylu”.
Aeth yr awyren ar goll rhwng Kuala Lumpur a Beijing, ac mae lle i gredu y gallai fod yng Nghefnfor India oddi ar arfordir Awstralia.
Ond mae’r chwilio wedi cael ei effeithio gan dywydd garw ac offer diffygiol.