Y gefnogaeth i Recep Tayyip Erdogan ar gynnydd unwaith eto
Mae’n ymddangos bod ymgais carfan o’r fyddin i ddymchwel llywodraeth Twrci wedi arwain at gynnydd ym mhoblogrwydd yr Arlywydd Recep Tayyip Erdogan.

Arweiniodd yr ymosodiadau at farwolaethau mwy na 250 o bobol.

Gorymdeithiodd degau o filoedd o bobol drwy strydoedd Twrci dros nos yn datgan eu cefnogaeth i Erdogan.

Dywedodd prif weinidog y wlad, Binali Yildirim y byddai’r sawl oedd yn gyfrifol am geisio gwaredu Erdogan yn “derbyn pob cosb maen nhw’n eu haeddu”.

Mae’r ymdrechion i estraddodi clerigwr Americanaidd y maen nhw’n ei amau o gynllwynio’r ymosodiad – a ddechreuodd yn Ankara ac Istanbul – eisoes wedi dechrau.

Bu farw 265 o bobol yn dilyn yr ymosodiad – gan gynnwys o leiaf 104 o gynllwynwyr – a bron i 1,500 wedi’u hanafu.

Cyn yr ymosodiad, roedd Erdogan yn cael ei feirniadu am ei ddull unbenaethol o arwain ond bellach, mae’n cael ei ganmol am y ffordd y mae e wedi ymateb i ymosodiad y fyddin.

Cafodd maes awyr Istanbul ei ail-agor brynhawn dydd Sadwrn ar ôl bron i 24 awr.

Mae Barack Obama, Angela Merkel a Jens Stoltenberg ymhlith yr arweinwyr byd sydd wedi galw ar bobol Twrci i gefnogi’r llywodraeth.

Mae 2,839 o wrthwynebwyr y llywodraeth wedi cael eu harestio hyd yn hyn, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n aelodau’r fyddin.