Mae Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau yn cynnal ymchwiliad hawliau sifil ar ôl i fideo ddangos dyn du yn cael ei saethu’n farw gan ddau blismon gwyn.

Mae’r digwyddiad wedi arwain at brotestiadau gan gannoedd o bobl yn Baton Rouge, Louisiana lle cafodd Alton Sterling, 37, ei ladd nos Fawrth.

Yn ôl un swyddog, cafodd gwn ei gymryd gan Sterling ar ôl iddo gael ei saethu mewn maes parcio tu allan i siop.

Nid yw’n glir o’r lluniau fideo a oedd gan Alton Sterling y gwn yn ei law neu a oedd yn estyn amdano pan gafodd ei saethu.

Mae’r Llywodraethwr Democrataidd John Bel Edwards wedi galw ar yr Adran Gyfiawnder i arwain yr ymchwiliad ac wedi cwrdd ag arweinwyr cymunedau pobl ddu.

Minnesota

Mewn digwyddiad arall, mae dyn wedi cael ei saethu’n farw gan yr heddlu yn nhalaith Minnesota.

Yn ôl yr heddlu yn St Anthony cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty ar ôl cael ei saethu yn St Paul ond bu farw’n ddiweddarach.

Yn ôl adroddiadau cafodd y dyn ei saethu tra’n eistedd yn ei gar ar ôl i’r heddlu ei stopio ac mae’n debyg bod dynes a phlentyn yn y car ar y pryd.

Mae dwsinau o brotestwyr wedi ymgasglu ger y safle lle cafodd ei saethu.