Mae’r ail recordiwr data o’r awyren EgyptAir a blymiodd i’r môr fis diwethaf wedi cael ei ganfod ym Môr y Canoldir.

Eisoes mae ymchwilwyr wedi dechrau dadansoddi’r recordiwr llais yng nghaban peilot yr awyren EgyptAir.

Fe gafodd y 66 o bobol oedd ar yr awyren – gan gynnwys y Cymro o Gaerfyrddin, Richard Osman, 40 – eu lladd, ac mae amheuon mai ffrwydrad oedd yn gyfrifol.

Roedd yr awyren Egypt Airbus A320 ar y ffordd i Cairo o Baris pan blymiodd i’r môr rhwng Ynys Creta, Gwlad Groeg ac arfordir Yr Aifft ar 19 Mai.