Mae dyn arfog aeth i mewn i glwb nos ar gyfer pobol hoyw yn Florida a thanio dryll wedi marw, meddai’r heddlu.
Does dim manylion ar hyn o bryd ynghylch sut y bu farw’r saethwr.
Dywedodd yr heddlu ei fod yn ddigwyddiad “torfol”, ond dydy hi ddim yn glir eto a fu unrhyw un arall farw.
Mae’r heddlu wedi rhybuddio pobol i gadw draw o’r ardal ac fe ddywedon nhw eu bod nhw wedi cynnal “ffrwydrad dan reolaeth”.
Mae’r gwasanaethau brys yn dal ar y safle.