Gwefan papur Le Monde yn rhoi sylw i'r ymladd
Mae mwy na 200 o gefnogwyr Lloegr wedi bod ynghanol ymladd yn ninas Marseille – ddeuddydd cyn eu gêm gynta’ ym mhencampwriaethau Ewro 2016.

Yn ôl yr heddlu, mae dau wedi cael eu harestio ac un yn cael triniaeth ysbyty ar ôl gwrthdaro rhyngddyn nhw a chriw o ddynion ifanc lleol.

Mae llefarydd ar ran Ffederasiwn y Cefnogwyr Pêl-droed sydd ym Marseille yn honni mai’r llanciau Ffrengig oedd wedi dechrau’r trwbwl y tu allan i dafarn y Queen Victoria yn ardal hen borthladd y ddinas.

Ond mae lluniau mewn papurau lleol yn dangos y gendarmes yn defnyddio nwy dagrau ac yn amgylchynu criw mawr o gefnogwyr Seisnig.

Hen hanes

Yn ôl un adroddiad, roedd y cefnogwyr wedi’u clywed yn siantio “Lle mae ISIS” – cyfeiriad at ymosodiadau gan y brawychwyr yn Ffrainc yn ystod y flwyddyn ddiwetha’.

Fe fu gwrthdaro ffyrnig gyda chefnogwyr Lloegr ym Marseille yn ystod Cwpan y Byd yn 1998 pan fu miloedd o gefnogwyr Seisnig yn ymladd gyda chefnogwyr Tunisia a heddlu arfog ar y traethau.