Llun: PA
Mae 11 o bobl wedi’u lladd mewn ymosodiad bom yn Istanbwl a oedd wedi targedu cerbyd oedd yn cludo heddlu terfysgaeth, yn ôl adroddiadau.

Fe ddigwyddodd y ffrwydrad ger un o adeiladau Prifysgol Istanbwl yn ardal Beyazit yn y ddinas yn ystod cyfnod prysura’r bore.

Yn ôl llywodraethwr Istanbwl, Vasip Sahin, roedd saith o swyddogion yr heddlu a phedwar o bobl gyffredin ymhlith y meirw.

Cafodd 36 o bobl eu hanafu – mae’n debyg bod tri ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.

Cafodd adeiladau gerllaw a rhai cerbydau eu difrodi, meddai asiantaeth newyddion Anadolu.

Nid oes unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad hyd yn hyn.

Mae Plaid Gweithwyr Cwrdistan, neu’r PKK, wedi bod yn targedu’r heddlu a’r lluoedd arfog ers mis Gorffennaf ar ôl i’r broses heddwch fregus fethu.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) hefyd yn cael eu hamau o gynnal nifer o ymosodiadau yn Nhwrci.