Mae 150 o wyddonwyr blaenllaw wedi galw am ohirio’r Gemau Olympaidd yr haf yma neu eu symud o Rio oherwydd pryder am y firws Zika.

Mewn llythyr at Sefydliad Iechyd y Byd a’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol dywed y gwyddonwyr y dylid atal y Gemau neu eu cynnal yn rhywle arall “yn enw iechyd cyhoeddus”.

Yn ôl un o awduron y llythyr, yr Athro Amir Attaran, byddai perygl i’r Gemau gael eu hadnabod fel ‘Olympics difrod i’r ymennydd’ os byddan nhw’n cael eu cynnal yn Rio.

Gyda disgwyl tua 500,000 o ymwelwyr tramor i’r Gemau, pryder y gwyddonwyr yw y byddai perygl i’r firws gael ei ledaenu i bedwar ban byd.

Gwrthod unrhyw alwadau i symud y Gemau, fodd bynnag, y mae Sefydliad Iechyd y Byd, sydd wedi bod mewn partneriaeth swyddogol gyda’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol ers 2010.

Amheuon

Mae hyn wedi arwain at amheuon am annibyniaeth y Sefydliad mewn sefyllfaoedd fel hyn.

“Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn ymddwyn yn anwybodus a thrahaus wrth gerdded law yn llaw â’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol,” meddai’r Athro Attaran. “Byddai caniatáu i’r Gemau Olympaidd fynd ymlaen yn Rio yn arwain at eni rhagor o blant â’u hymennydd wedi eu difrodi.”

Mae seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd i fod i ddigwydd yn Stadiwm Maracana yn Rio ar 5 Awst.