Llun: PA
Mae ymgyrchwyr yn llosgi teiars ac wedi gosod rhwystrau ar bont fawr yng ngogledd Ffrainc, wrth i streiciau a phrotestiadau gael eu cynnal ledled y wlad dros ddiwygiadau llafur.
Fe wnaeth y protestwyr gwrdd yn gynnar yng nghanol tref borthladd Harfleur, yn agos i Le Havre, gan gynnau tân gwyllt.
Aeth yr ymgyrchwyr i’r bont 2km o hyd, Pont de Normandie, dros yr afon Seine ger Le Havre, gan roi teiars ar dân a blocio stondinau talu tollau.
Maen nhw’n streicio ac yn protestio yn erbyn mesur newydd yn Ffrainc sy’n ymestyn yr wythnos waith ac yn gwneud diswyddo pobol yn haws.
Daw’r digwyddiadau hyn heddiw ddiwrnod ôl i Ffrainc ddechrau defnyddio tanwydd wrth gefn i geisio mynd i’r afael â diffyg petrol, sydd wedi’i achosi gan y protestiadau.