Alexander Van der Bellen, Arlywydd Awstria, Llun: Wikipedia/By Manfred Werner/Tsui - CC by-sa 3.0
Mae Alexander Van der Bellen, yr ymgeisydd annibynnol o’r Gwyrddion, wedi’i ethol yn Arlywydd Awstria gan drechu Norbert Hofer, yr ymgeisydd asgell dde.

Mewn neges Facebook, diolchodd Norbert Hofer i’w gefnogwyr am eu cefnogaeth, gan ychwanegu ei fod yn cydnabod ei fod wedi’i drechu gan Alexander Van der Bellen.

Yn ei neges, dywedodd Norbert Hofer ei fod yn “naturiol drist” cyn ychwanegu, “byddwn i wedi bod wrth fy modd yn gofalu am wlad rhyfeddol fel arlywydd ffederal.”

Mae’r pleidleisiau uniongyrchol wedi’u cyfrif heddiw gan roi canlyniad o  50.3%  i  Alexander Van der Bellen a 49.7% i Norbert Hofer.

Roedd Hofer ar y blaen o drwch blewyn ddoe ond roedd tua 700,000 o bleidleisiau post heb eu cyfrif ac yn dilyn hynny daeth Alexander Van der Bellen, sy’n 72 oed, i’r brig.