Mae swyddogion o wlad yr Aifft wedi dweud eu bod bellach wedi dod o hyd i rai o weddillion yr awyren EgyptAir ddiflannodd ym Môr y Canoldir fore ddydd Iau.
Disgynnodd yr awyren A320 – oedd â 56 o deithwyr a 10 o griw arni – i’r dŵr hanner ffordd rhwng ynys Creta yng Ngwlad Groeg ac arfordir yr Aifft, wrth hedfan o Baris i Cairo.
Dywedodd llefarydd ar ran byddin yr Aifft bod rhannau o’r awyren ac eiddo teithwyr wedi cael eu canfod 180 milltir o ddinas Alexandria.
Roedd un Cymro, Richard Osman o Sir Gaerfyrddin, ymysg y teithwyr oedd ar yr awyren.
Pryder am frawychiaeth
Fe fu llynges Prydain yn cynorthwyo gyda’r ymdrechion heddiw i ddod o hyd i’r awyren, a ddiflannodd oddi ar y radar am tua 2.45 y bore amser lleol ddydd Iau.
Y gred yw ei bod hi wedi troelli cyn plymio a disgyn i’r môr, a does dim arwydd bod unrhyw un wedi goroesi.
Roedd Richard Osman yn gweithio yn y diwydiant mwyngloddio ac yn teithio i Affrica yn aml gyda’i waith, yn ôl ei frawd Alastair.
Yn ôl swyddogion yr Aifft a Rwsia, y tebygolrwydd yw mai gweithred frawychol oedd yn gyfrifol am y ddamwain, ond dyw hynny ddim wedi cael ei gadarnhau eto.