Gwelwyd cynnydd o dros 60,000 yn nifer yr ymwelwyr tramor i Gaerdydd yn 2015, yn ôl y ffigyrau diweddaraf, a hynny’n rhannol oherwydd Cwpan Rygbi’r Byd.

Cafodd wyth o gemau’r gystadleuaeth eu cynnal yn Stadiwm y Mileniwm, sydd yn dal dros 72,000 o bobol, ac roedd yr holl gemau hefyd yn cael eu dangos mewn parth cefnogwyr cyfagos ym Mharc yr Arfau.

Fe gyfrannodd hynny at ddenu 362,000 o ymwelwyr tramor i’r brifddinas y llynedd, cynnydd o 62,000 ar niferoedd 2014.

Cafwyd cyfanswm o 970,000 o ymwelwyr i Gymru yn 2015, oedd hefyd yn gynnydd o 40,000 ar y flwyddyn flaenorol.

Gwario dros £400m

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), gwelwyd cynnydd sylweddol o 27,000 i 68,000 mewn blwyddyn yn y nifer o ymwelwyr tramor i Gaerdydd oedd yn rhoi ‘Arall’ fel rheswm eu hymweliad.

Mae’r corff ystadegol yn cyfrif ymweliadau ar gyfer digwyddiadau chwaraeon o dan gategori ‘Arall’, a hynny i wahaniaethu rhwng ymweliadau am resymau gwyliau, busnes, neu ymweld â theulu neu ffrindiau.

Cafodd £131m ei wario gan yr ymwelwyr hynny i’r brifddinas, ychwanegodd yr ONS, gan gyfrannu at y cyfanswm o £410m a wariodd twristiaid yng Nghymru yn 2015.

Y tu hwnt i Gaerdydd, siroedd Conwy (85,000) a Gwynedd (84,000) ddenodd y nifer fwyaf o ymwelwyr, gyda’r rheiny yn gwario cyfanswm o bron i £50m yn y ddwy ardal hynny.

Ond Powys oedd y sir lwyddodd i gael eu twristiaid nhw i wario fwyaf y tu allan i’r brifddinas, gyda 49,000 o ymwelwyr tramor yn gwario cyfanswm o £30m.