Mae pump o arweinwyr y grwp eithafol, Boko Haram, wedi cael eu harestio gan luoedd rhyngwladol yn Cameroon, ac mae dwsinau o ferched a phlant a oedd wedi’u dal yn gaeth wedi cael eu rhyddhau.

Fe gynhaliwyd cyrchoedd ar wersylloedd Boko Haram yng nghoedwig Madawaya ers dechrau’r mis hwn. Mae’r cyrch diweddara’ wedi rhyddau 28 o blant a beth bynnag 18 o fenywod.

Roedd Boko Haram wedi sefydlu gwersyll yn y goedwig wedi iddyn nhw orfod ffoi o Nigeria. Yn y cyfamser, roedden nhw wedi bod yn hyfforddi genethod ifanc a merched i fod yn hunanfomwyr.

Yn ol ystadegau Amnest Rhyngwladol, mae gweithredoedd Boko Haram yn Cameroon, Chad a Niger dros y saith mlynedd diwetha’, wedi lladd o leia’ 20,000 o bobol.