Bernie Sanders
Mae Bernie Sanders wedi cipio talaith Gorllewin Virginia ond mae’n annhebygol y bydd hynny’n atal ei wrthwynebydd Hillary Clinton rhag cael ei dewis fel ymgeisydd y Democratiaid yn y ras am y Tŷ Gwyn.

Fe allai Hillary Clinton golli pob un o’r taleithiau sydd eto i bleidleisio a pharhau i gael ei dewis yn ymgeisydd arlywyddol y Democratiaid.

Mae hi eisoes wedi troi ei sylw at yr etholiad cyffredinol a Donald Trump, a oedd wedi sicrhau buddugoliaeth yng Ngorllewin Virginia a Nebraska.

Mae Gweriniaethwyr allweddol wedi galw ar aelodau’r blaid i gefnogi’r biliwnydd sy’n debygol o fod yn ymgeisydd arlywyddol ym mis Tachwedd.

Ond mae’r hollt o fewn y blaid yn parhau gyda llefarydd y Tŷ Paul Ryan yn penderfynu’n annisgwyl na fyddai’n rhoi ei gefnogaeth i Donald Trump.