Y Cynulliad
Wrth i’r 60 o Aelodau Cynulliad y tymor newydd gyfarfod am y tro cyntaf heddiw, eu swydd gyntaf fydd ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd i gadw trefn ar y siambr.

Yr enwau sydd wedi cael eu crybwyll ar gyfer swydd y Llywydd yw Elin Jones a Dafydd Elis-Thomas o Blaid Cymru, y Ceidwadwr Paul Davies, a dau o’r Blaid Lafur, Jane Hutt a John Griffiths.

Y Fonesig Rosemary Butler o’r Blaid Lafur oedd y Llywydd y tymor diwethaf ond dydy hi ddim yn Aelod Cynulliad rhagor. Cyn hynny, roedd Dafydd Elis-Thomas yn y rôl.

“Nid mater i mi ydy o,” meddai Dafydd Elis-Thomas ar y Post Cyntaf bore ma am y posibilrwydd o gael ei enwebu am y swydd eto.

“Mae’n rhaid i aelod gael ei enwebu, ac yna mae’r aelod sy’n cael ei enwebu yn gorfod cael ei gefnogi gan un sy’n aelod o blaid arall neu grŵp arall.”

Angen ‘dull pleidleisio gwell’ yn yr etholiadau

Ychwanegodd ei fod am weld sawl peth yn newid ynghylch y Cynulliad, gan feirniadu’r dull o bleidleisio yn yr etholiadau eleni.

“Be sy’n apelio ata’ i yw datblygu cyfansoddiad Cymru, datblygu’r Cynulliad fel corff, sicrhau bod ‘na fwy o bobol eto yn pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad, bod gyda ni fwy o aelodau a bod gyda ni ddull pleidleisio gwell.

“Mae’n amlwg i mi nad oedd y croesau yma ar bapurau ar wahân (yn yr etholiad) ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu, nad oedd hwnna’n ffordd effeithiol nac yn wirioneddol gyfranogol o ran gwerth pleidlais pobol.”

Pleidlais rydd

Mae’r Ceidwadwr, David Melding, wedi cadarnhau na fydd yn sefyll, er i’w enw cael ei grybwyll fel un o’r ymgeiswyr posib.

Os bydd mwy nag un ymgeisydd ar gyfer y swydd, bydd yn rhaid cynnal pleidlais ymhlith yr Aelodau Cynulliad, ond os mai un enw fydd yn dod ymlaen – honno neu hwnnw fydd yn cael y rôl.

Bydd y bleidlais yn un rhydd.

Penodi Prif Weinidog Cymru

Ar ôl ethol y Llywydd, mae disgwyl y bydd arweinydd Llafur Cymru, Carwyn Jones yn cael ei ail-benodi fel Prif Weinidog Cymru.