Fe fydd Michel Platini  yn ymddiswyddo fel llywydd UEFA ar ôl iddo fethu a gwyrdroi ei waharddiad rhag ymwneud â phêl-droed.

Fe gyhoeddwyd  heddiw y bydd ei waharddiad yn cael ei ostwng o chwe blynedd i bedair.

Fe wnaeth y Llys Cyflafareddu Chwaraeon (CAS) leihau’r gwaharddiad ar Michel Platini, ar ôl i’w waharddiad gwreiddiol gael ei leihau o wyth mlynedd i chwech gan banel apêl FIFA.

Cafodd e a chyn-lywydd FIFA, Sepp Blatter, waharddiad o wyth mlynedd i ddechrau, yn ymwneud a thaliad o thua £1.4 miliwn a wnaed gan Blatter i Michel Platini yn 2011.

Er bod y gwaharddiad wedi’i leihau, mae’r llys yn dal i gredu bod y taliad hwn wedi bod yn “annheg” ac yn “gwrthdaro buddiannau”. Dywedodd panel CAS hefyd bod agwedd Plaitini yn y llys wedi bod yn ffactor yn y penderfyniad ac nad oedd wedi dangos unrhyw edifeirwch.

Dywedodd llefarydd ar ran cyfreithwyr Platini y bydd nawr yn ymddiswyddo.

Fe fydd pwyllgor gweithredol UEFA yn cwrdd wythnos nesaf yn y Swistir i drafod ei olynydd.