Mae Enda Kenny wedi llwyddo i ffurfio llywodraeth a pharhau fel prif weinidog Iwerddon – 70 diwrnod ar ôl un o’r etholiadau mwyaf rhanedig yn hanes y weriniaeth.

Fe wnaeth hyn ar ôl taro bargen hanesyddol rhwng ei blaid Fine Gael a’u hen elynion Fianna Fail. Er mai parhau fel gwrthblaid y bydd Fianna Fail, maen nhw a grŵp o aelodau annibynnol wedi cytuno i gefnogi’r llywodraeth ar bynciau penodol am gyfnod o dair blynedd.

Pryderu am Brexit

Wrth gychwyn ar ei dymor newydd fel Taoiseach, dywedodd Enda Kenny mai un o’i bryderon mawr yw’r bygythiad o Brexit.

Mae’n bwriadu gwneud sawl taith i Brydain a Gogledd Iwerddon i geisio perswadio dinasyddion y Weriniaeth a phobl fusnes i bleidleisio dros i Brydain aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae dinasyddion y Weriniaeth sy’n byw ym Mhrydain a dinasyddion Prydeinig sy’n byw yn Iwerddon â hawl i bleidleisio yn y refferendwm.

“Mae refferendwm y Deyrnas Unedig yn bwysig i bawb ar yr ynysoedd hyn ac yn Ewrop,” meddai. “Mae’r berthynas rhwng Prydain ac Iwerddon yn gryfach nag y bu erioed, a’n gobaith yw y bydd y Deyrnas Unedig yn aros gyda ni yn yr Undeb Ewropeaidd.”