(llun: Mattock CCA 2.0)
Mae ffigurau swyddogol yn dangos cynnydd cyson yn nifer y bobl sy’n teithio ar drenau.

Fe wnaed 1.7 biliwn o deithiau ar drenau dros y flwyddyn ddiwethaf, a oedd 3.7% yn fwy na’r hyn oedd y flwyddyn cynt.

Mae 1.2 biliwn o’r teithiau hyn yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr, lle bu cynnydd o 4.2%

Aeth nifer y teithiau hir i fyny 3.3% i 139 miliwn, a nifer y teithiau rhanbarthol i fyny 2.3% i 379 miliwn.

Mae’r ffigurau’n ymwneud â’r 12 mis rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2016, ac wedi eu casglu gan y Rail Delivery Group (RDG), y corff sy’n gyfrifol am system docynnau ganolog y cwmnïau trenau.

Prysur

Meddai prif weithredwr yr RDG: “Mae’r rheiffyrdd yn cadw Prydain i symud, ond mae ein rhwydwaith yn brysur iawn ar adegau oherwydd cynnydd mawr mewn gwasanaethau.

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n buddsoddi ac yn cynllunio i’r hirdymor ar gyfer y galw sy’n dal i dyfu.”

Dywed arweinydd yr Undeb Rheilffyrdd, Morol a Thrafnidiaeth (RMT), Mick Cash, fodd bynnag, fod y cwmnïau trên yn gwneud gormod o elw ar draul teithwyr.

“Efallai ein bod ni’n symud mwy o deithwyr,” meddai. “Ond i lawer mae hyn am bris afresymol ar wasanaethau gorlawn tra bod bosus y cwmnïau trên yn chwerthin yr holl ffordd i’r banc.”