Salah Abdeslam Llun: PA
Mae Salah Abdeslam, sy’n cael ei amau o gymryd rhan allweddol yn ymosodiadau Paris, wedi cael ei drosglwyddo i ofal yr awdurdodau yn Ffrainc, meddai erlynwyr yng Ngwlad Belg.

Cafodd Abdeslam ei arestio yng Ngwlad Belg fis diwethaf ar ôl bod ar ffo am bedwar mis.

Mae Ffrainc yn ei amau o fod a rhan yn yr ymosodiadau ar y brifddinas ar 13 Tachwedd y llynedd pan gafodd 130 o bobl eu lladd.

Dywedodd Frank Berton, cyfreithiwr yn Ffrainc y bydd  yn amddiffyn Abdeslam gan ei ddisgrifio fel dyn ifanc bregus sy’n barod i gyd-weithredu.

Roedd brawd Abdeslam yn un o’r hunan-fomwyr a ymosododd ar safleoedd ym Mharis.

Mae Salah Abdeslam wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn cyrch gan yr heddlu ym Mrwsel ar 15 Mawrth. Cafodd ei arestio tridiau’n ddiweddarach.

Mae heddlu Gwlad Belg wedi bod yn ei holi ynglŷn â chysylltiadau posib gyda thri hunan-fomiwr a ymosododd ar faes awyr Brwsel a gorsaf Metro’r brifddinas ar 22 Mawrth, gan ladd 32 o bobl.

Dywedodd erlynwyr ym Mharis y bydd  Abdeslam yn mynd gerbron barnwyr yn ddiweddarach.