Shane Sutton
Mae Beicio Prydain wedi gwahardd un o’i brif gyfarwyddwyr ar ôl lansio adolygiad annibynnol i honiadau ei fod wedi gwahaniaethu yn erbyn aelodau benywaidd a Pharalympaidd y sefydliad.

Cyhoeddodd y corff llywodraethu’r adolygiad ar ymddygiad Shane Sutton nos Fawrth.

Mae’r seiclwraig Jess Varnish wedi cyhuddo Shane Sutton o ragfarn ar sail rhyw, gan honni ei fod wedi dweud wrthi am “fynd i gael babi” ar ôl i’w chytundeb â’r sefydliad ddod i ben.

Yn dilyn hynny, daeth adroddiad damniol  yn y Daily Mail yn ei gyhuddo o wneud sylwadau sarhaus am seiclwyr Paralympaidd.

Dywedodd datganiad gan Beicio Prydain fod Shane Sutton wedi’i “wahardd wrth i ymchwiliad mewnol i honiadau o wahaniaethu a wnaed yn y wasg” gael ei gynnal.

Gwadu’r honiadau

Mae Shane Sutton, 58 oed, sy’n wreiddiol o Awstralia, yn gwadu honiadau Jess Varnish.

Dywedodd wrth bapur newydd y Times, ei fod “gant y cant” heb ddweud wrthi am “fynd i gael babi.”

“Doedd dim siarad am fabis. Dwi ddim yn gwybod o le ddaeth hwnna,” meddai.

Ychwanegodd ei fod yn “croesawu’r cyfle” i roi ei safbwynt ar bethau, gan nad yw’n credu ei fod wedi “cael ei glywed o’r cychwyn cyntaf.”

Digwyddodd cyfweliad y Times cyn i honiadau pellach gael eu gwneud gan y seiclwr Paralympaidd llwyddiannus, Darren Kenny, a ddywedodd yn y Mail, fod “yr agwedd tuag at (aelodau o’r tîm Paralympaidd) yn ofnadwy”.

“Roeddem yn cael ein goddef ar y gorau. Y term oedd yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio atom oedd “gimps” yn gyffredinol, gyda gair arall o flaen hwnnw.”

‘Rhagfarn yn bodoli’

Mae’r cyn-seiclwraig, Victoria Pendleton, un o’r goreuon ym myd seiclo Prydain, oedd yn bartner sbrint i Jess Varnish yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012, wedi cefnogi ei honiadau.

Dywedodd wrth y Daily Telegraph fod rhagfarn ar sail  rhyw yn bodoli yn y sefydliad a bod ei phrofiadau yn “debyg iawn”.

“Dwi’n gwybod mor ddigalon oedden nhw’n gwneud i fi deimlo.”

Dywedodd Shane Sutton ei fod wedi cael ei “frifo” gan sylwadau Victoria Pendleton.