Safle Chernobyl yn yr Wcráin
30 mlynedd yn union ers i’r gyflafan waethaf yn hanes ynni niwclear ddigwydd, mae’r Wcráin yn paratoi i gofio heddiw am yr holl ddioddefwyr a fu farw yn Chernobyl.

Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod tua 4,000 wedi marw, rhai yn syth wedi’r ffrwydrad ymbelydrol yng ngogledd y Wcráin, a rhai blynyddoedd wedyn.

Y gred yw bod babanod yn dal i gael eu geni â namau ar eu cyrff oherwydd yr ymbelydredd.

Fe wnaeth y ddamwain orfodi i ddegau o filoedd o bobol adael eu tai, ac mae’n dal i fod yn anghyfreithlon byw mewn ardaloedd yng nghysgod yr adweithydd ymbelydrol a ffrwydrodd ar 26 Ebrill 1986 yn y pwerdy ger dinas Pripyat.

Ffermydd Cymru

Effeithiodd y ddamwain ar Ewrop gyfan, gyda gwaharddiad yn cael eu rhoi ar 300 o ffermydd Cymru am 25 mlynedd rhag gwerthu eu hanifeiliaid.

Y cofio

Bydd digwyddiadau yn y Wcráin heddiw yn cynnwys gwasanaeth cofio yn nhref Slavutych, a gafodd ei hadeiladu i adleoli gweithwyr oedd yn byw ger y safle niwclear.

Bydd gwasanaeth eglwysig yn Kiev hefyd i deuluoedd y dioddefwyr ac mae disgwyl i Arlywydd y wlad, Petro Poroshenko, fynd i seremoni gerllaw’r safle.